>   Gwybodaeth i Blant a Theuluoedd Troseddwyr   <

>   Gwybodaeth i Blant a Theuluoedd Troseddwyr   < >   ENGLISH   < >   Gwybodaeth i Bartneriaethau CYP   < >   Gwybodaeth i Staff ACT   < >   BLE MAE DAD?   < >   CARTREF NEWYDD DAD   < >   O FYWYDAU CHWILFRIW I GRYFDER TEULUOL   < >   JONI D a MR. PRAM   < >   POSTER   < >   Y Weinyddiaeth Gyfiawnder   < >   Llywodraeth Cynulliad Cymru   <

Helo a chroeso i'n gwefan!

Dydy hi byth yn hawdd pan fydd rhywun agos atat ti'n mynd i'r carchar – ond mae llawer o bobl yn yr un sefyllfa â ti!

Mae'r straeon yn y comics sydd ar y wefan yma'n llawn o wybodaeth am y sefyllfa, y cyfle a'r opsiynau sydd gen ti, dy hawliau a lle gelli gael help.

Sut alla i ddarllen y comics?

Clicia ar deitlau'r comics yn y llun uchod neu ar y cloriau isod a byddent yn llwytho fel PDF yn barod i ti eu darllen ar y sgrin. Neu, fe elli di brintio copi os ydy hynny'n well gen ti.

BLE MAE DAD? BLE MAE DAD? (Rhifyn arbennig - Carchar y Parc) CARTREF NEWYDD DAD O FYWYDAU CHWILFRIW I GRYFDER TEULUOL JONI D a MR. PRAM POSTER

Pwy ydyn ni?

Cafodd y taflenni a'r wefan eu comisiynu gan y Gweinidog Cyfiawnder – Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) a Llywodraeth Cynulliad CymruLlwybr Plant a Theuluoedd Troseddwyr sy'n cynnwys cynrychiolwyr elusennau, sector preifat a statudol.

Ydych chi'n gweithio gyda phlant a theuluoedd troseddwyr?

Mae pob taflen ar y dudalen yma'n cynnwys gwybodaeth sy'n ddefnyddiol i bawb ond mae gennym ddwy daflen wybodaeth yn arbennig i bobl sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd troseddwyr. Mae'r rhain yn dweud beth yw polisïau perthnasol Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth Prydain ac yn rhoi gwybodaeth berthnasol arall i ni. Clicia ar y teitlau "Gwybodaeth i Bartneriaethau CYP" neu "Gwybodaeth i Staff ACT" yn y fan yma neu yn y llun ar frig y dudalen yma i'w lawrlwytho.

Ein Poster

Gelli hefyd lawrlwytho a phrintio poster maint A3 sy'n hysbysebu'r taflenni a'r wefan yma. Gallai'r rhain gael eu dangos mewn swyddfeydd, carchardai, swyddfeydd prawf, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, llyfrgelloedd ac ati.

 

gosodiad a chyfieithiad gan WORDSapart.co.uk